CYMWYSTERAU
Er y bydd rhai gweithwyr chwarae'n dechrau gweithio heb gymhwyster, bydd disgwyl i bob gweithiwr chwarae ennill un yn y pen draw.
Mae'r rhan fwyaf o gymwysterau gwaith chwarae'n galw am ddysgu trwy brofiad ymarferol mewn sefyllfa chwarae, wedi ei gyfuno â rhywfaint o waith astudio. Bydd gofyn am rywfaint o waith ysgrifenedig.
Dysgwch fwy am gymwysterau achrededig
Pa lefelau o gymwysterau sydd ar gael?
Mae gwahanol lefelau o gymwysterau'n ofynnol yn ddibynnol ar natur y swydd - gweler ein tudalennau ar lefelau cymwysterau yn y rhestr ar ochr chwith y ddalen hon. Fel canllaw bras:
Mae Lefel 2 ar gyfer pobl sy'n gweithio dan oruchwyliaeth
Mae Lefel 3 ar gyfer pobl sy'n gweithio ar eu menter eu hunain, yn cynllunio a threfnu eu gwaith eu hunain ac yn goruchwylio eraill
Mae Lefel 4 ar gyfer ymarferwyr profiadol y bydd disgwyl iddynt reoli neu ddatblygu sefyllfa gymhleth neu nifer o sefyllfaoedd ar draws ardal benodol.
English