Deall y Jargon

Lawrlwytho Deall y Jargon

Achrediad
Mae Achrediad yn ein sicrhau bod rhaglen hyfforddiant wedi cwrdd â safonau ansawdd a osodwyd gan y proffesiwn.  Bydd graddio o raglen achrededig yn dangos eich bod wedi paratoi'n ddigonol i gael mynediad i broffesiwn.

Addysg Uwch
Addysg a ddarperir gan brifysgolion, prifysgolion gyrfäol a cholegau cymunedol sy'n dyfarnu graddau academaidd neu dystysgrifau proffesiynol.

Addysgwr
Person sy'n addysgu mewn ysgol, coleg neu brifysgol.

APADGOS
Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

APEL (Achrediad Profiad a Dysg Blaenorol)
System ar gyfer achredu gwaith presennol neu brofiad bywyd a dysg dysgwr, fel y gall gyfrannu tuag at gymhwyster neu helpu tuag at dderbyn mynediad i gwrs.

Aseswr
Person sy'n gwirio tystiolaeth ymgeiswyr i weld os ydynt yn cyflawni'r safonau ac ennill cymhwyster, gallai hyn hefyd gynnwys arsylwi'r ymgeisydd yn y gweithle.

Aseswr Galwedigaethol
Aseswr sy'n gymwys mewn gwaith penodol.

CACHE (Cyngor Dyfarniadau mewn Gofal ac Addysg Plant)
Darparwr cyrsiau hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae.

Cadw staff
Annog staff i aros yn eu swyddi neu gyda'r sefydliad.

C & G (City and Guilds)
Darparwr cymwysterau hyfforddiant a gwaith chwarae.

CAHGC Cymru (Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru)
Fforwm ar gyfer y sector gwaith chwarae sy'n archwilio materion o bwysigrwydd strategol i bob agwedd o addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru.  Mae'r fforwm yma'n gwneud argymhellion i PETC UK.

CCAUC (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru)
Mae CCAUC yn hyrwyddo addysg uwch rhagorol o safon ryngwladol yng Nghymru.

CGC (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol)
Cymhwyster sy'n gwobrwyo cymhwysedd mewn math penodol o gyflogaeth.

City and Guilds 7302
Cwrs hyfforddi a chymwysterau ar gyfer hyfforddwyr.

Corff dyfarnu
Sefydliad, sydd wedi ei gymeradwyo, sy'n dyfarnu tystysgrifau.

Craidd Sgiliau a Gwybodaeth Cyffredin Cymru
Dogfen sy'n anelu i adlewyrchu cyfres o werthoedd cyffredin sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, sy'n parchu amrywiaeth ac sy'n herio stereoteipiau, gan helpu i ddarparu gwasanaethau sy'n fwy effeithlon ac integredig.

Credyd
Cydnabyddiaeth am sgiliau ar gyfer pob dysgwr o bedair mlwydd ar ddeg ymlaen - sy'n cynnig cysondeb yn y modd o gydnabod cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr o bob oed, waeth os ydynt yn dysgu yn y gweithle, yn y gymuned, yn yr ysgol, y coleg neu'r brifysgol.

Cronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig
Mae'n cynnwys manylion cymwysterau sydd wedi eu hachredu gan reolyddion cymwysterau allanol yng Nghymru (APADGOS), Lloegr (Ofqual) a Gogledd Iwerddon (CCEA).

CTT (Cydgyngor Trafod Telerau)
Pwyllgor sy'n ymdrin â thâl ac amodau gwasanaeth staff gwaith chwarae ac felly'r safonau hyfforddiant sy'n arwain at gydnabyddiaeth proffesiynol.

CWLWM (Childcare Wales Learning and Working Mutually)
Partneriaeth a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i weithio ar ddatblygu sector gofal plant dynamig, ymatebol a chynaliadwy yng Nghymru.

Cyngor Sgiliau Sector
Sefydliad sy'n cynrychioli cyflogwyr sy'n arwain ar addysg, hyfforddiant a sgiliau ar gyfer cyflogai.

Cymeradwyaeth
Cadarnhad swyddogol.

Cymhwysedd (gweler hefyd Cymhwyseddau Sefydliadol)
Y gallu i wneud rhywbeth yn dda neu i'r safon angenrheidiol. Sgiliau y mae pobl yn meddu arnynt sy'n caniatáu iddynt gwblhau tasgau.  Mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn defnyddio cymhwyseddau i arddangos y lefel o ddealltwriaeth y bydd raid ei gyflawni.

Cymhwysedd Sefydliadol
Y diwylliant a'r amodau yn y gweithle sy'n galluogi gweithwyr chwarae i fod y gorau posibl.  Sefydliad sy'n gweithio i'r safon disgwyliedig.

Cymhwyster
Cyflawni gofynion; ardystiad proffesiynol.

Cymwysterau gyrfäol
Mae cymwysterau gyrfäol (VRQs) yn cynnig rhaglen ddysgu ymarferol sy'n perthyn yn uniongyrchol i rôl swydd neu ddiwydiant penodol.

Cytundeb Sgiliau Sector
Cytundeb a gynlluniwyd i sicrhau mai'r sgiliau y mae cyflogwyr a dysgwyr eu hangen er mwyn llwyddo yw'r rhai y mae'r system addysgu a dysgu'n eu darparu.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Y modd y bydd unigolion yn gwella eu perfformiad ymarferol trwy ymgymryd â dysg mewn ystod eang o weithgareddau sy'n cynnal, datblygu, a chyfoethogi eu sgiliau a'u gwybodaeth.

Datblygu'r Gweithlu
Polisi neu raglen leol, genedlaethol neu ryngwladol sy'n ymwneud â dysgu ar gyfer gwaith h.y. hyfforddiant gyrfäol, hyfforddiant ac ailhyfforddi oedolion, a mentrau cyflogaeth perthynol.  Addysg a hyfforddiant ar gyfer staff, cyflogedig a di-dâl, i ddatblygu sgiliau yn y gweithle i sicrhau bod y staff i gyd yn gymwys i gwblhau eu gwaith.

Dysgu gydol oes 
Y cysyniad bod dysgu'n parhau trwy gydol oes a'r tu hwnt i'r system addysg.

Dysgwr
Person sy'n ymgymryd â hyfforddiant / dysg.

Egwyddorion Gwaith Chwarae
Set o egwyddorion (ethos) sy'n hysbysu arfer gwaith chwarae ac sy'n cael eu cynnwys fel sail ar gyfer pob hyfforddiant gwaith chwarae o safon.

Fframwaith
Strwythur neu set o syniadau, egwyddorion, cytundebau neu reolau sy'n darparu sail neu amlinelliad ar gyfer model.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau (QCF)
Mae'r fframwaith yn ffordd newydd o gydnabod sgiliau a chymwysterau.  Mae'n gwneud hyn trwy ddyfarnu credydau am gymwysterau ac unedau (camau dysgu bychain).  Mae'n galluogi pobl i ennill cymwysterau yn eu hamser eu hunain a thrwy ddilyn llwybrau hyblyg.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC)
Mae'r fframwaith yma'n cwmpasu pob addysg 16+ ac addysg uwch yng Nghymru, a chaiff ei sefydlu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

GA (Gwiriwr Allanol)
Y person a gyflogir gan ganolfan asesu cymwysterau i sicrhau bod pawb yn y ganolfan yn gweithio i'r safonau a ddisgwylir.

Galwedigaeth
Swydd neu ddewis o yrfa.

GM (Gwiriwr Mewnol)
Person a gyflogir gan y ganolfan asesu cymwysterau i sicrhau bod pawb yn y ganolfan yn gweithio'n unol â'r safonau a ddisgwylir gan y corff dyfarnu.

Gradd sylfaen
Cymhwyster lefel gradd a ddyluniwyd gyda chyflogwyr, sy'n cyfuno astudio academaidd â dysgu yn y gweithle i ddarparu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau perthnasol i bobl er mwyn gwella perfformiad a chynhyrchiant.

Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3)
Cwrs hyfforddi a chymhwyster lefel 2 a ddatblygwyd gan Chwarae Cymru trwy'r prosiect CWLWM - sydd â'r Egwyddorion Gwaith Chwarae a chwrdd ag anghenion chwarae plant wrth ei wraidd.

Gwaith Ieuenctid
Mae gweithwyr ieuenctid yn hyrwyddo datblygiad personol, addysgiadol a chymdeithasol pobl ifanc rhwng 11 a 19 mlwydd oed, a gallant hefyd weithio â phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu hyd at 25 mlwydd oed.

Gweithlu plant
Pawb sy'n gweithio â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd - mae gwaith chwarae'n un o nifer o broffesiynau sy'n llunio'r gweithlu plant.

Gweithwyr portffolio
Pobl sydd yn dal mwy nag un swydd ar y tro yn y gweithlu plant.

Hyfforddwr
Person proffesiynol sy'n trosglwyddo dysgu.

Lefel 2, 3, 4
Ewch i'n Tudalen Cymwysterau

Llwybrau gyrfa
Strategaeth datblygu'r gweithlu a ddefnyddir i gefnogi symudiad gweithwyr o addysg i mewn i, a thrwy'r gweithlu.

Llwybr cydlynol
Cynllun hyfforddiant sy'n rhesymegol gyson, ac sydd â chynnydd cymeradwy.

Mentor
Person sy'n cynnig cefnogaeth unigol i ymgeisydd i ennill cymhwyster.

P3 (gweler Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith uchod)

Pasbort Gweithredol
Cofnod ar-lein, wedi ei wirio, o gymwysterau, hyfforddiant, cyflogaeth a gwirfoddoli a reolir gan SkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector. 

Proffesiwn
Galwedigaeth sy'n gofyn am addysg helaeth neu hyfforddiant arbenigol.

Pwyllgor Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS)
Is-bwyllgor o Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gwneud argymhellion i'r Gweinidog Addysg ynghylch cymeradwyaeth proffesiynol, sicrhau ansawdd ac achredu gwaith ieuenctid, datblygiad cymunedol a rhaglenni addysg a hyfforddiant gwaith chwarae ar bob lefel.

Recriwtio
Hysbysebu, cyfweld, dethol a llanw swyddi.

Rhwydwaith Datblygu Gweithlu Plant a Phobl Ifanc
Cynghorau Sgiliau Sector a phartneriaid eraill sy'n cynrychioli'r rheini sy'n gweithio â phlant a phobl ifanc ar draws Cymru

Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Cyfres o safonau ansawdd gofynnol dilys ar gyfer penderfynu os yw darparwyr yn darparu gofal digonol ar gyfer plant dan wyth mlwydd oed ac sydd fel arall yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol.

Sector Gwaith Chwarae
Gweithwyr chwarae, hyfforddwyr gwaith chwarae, myfyrwyr gwaith chwarae, cyflogwyr gweithwyr chwarae, sefydliadau sy'n cynrychioli gwaith chwarae fel rhan o'u cylch gorchwyl.

SGC (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol)
Canlyniadau perfformiad mesuradwy y bydd disgwyl i unigolyn weithio iddynt mewn galwedigaeth benodol.  Mae'r SGC, a ddatblygwyd gan gyflogwyr ar draws y DU, yn amlinellu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithredu mewn modd cymwys yn y gweithle.

SkillsActive (SkillsActive Cymru)
Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Hamdden Egnïol a Dysgu (yng Nghymru).

Uned Cyffredin
Prif dasg Grŵp Llywio Unedau Cyffredin Gwaith Chwarae yw arwain ar ddatblygu set o unedau hyfforddi â chynnwys cyffredin ar gyfer y sector gwaith chwarae.

Facial expressions, language or body language that communicates the child or young person’s wish to play or invite others to play
support and assist
The real or imagined boundary that keeps the play intact returns
decided by their own free will
in a steady and slowly increasing way
anything that could cause harm or loss
Based on natural responses rather than thought or training
Internally driven reasons for doing something
an inbuilt urge or desire
controlled by the individual
a way of categorising play into various different types. Currently 16 types are usually recognised.
thinking about what we do and identifying what we do well and what we could improve
the chance of harm or loss occurring
a careful examination of what could cause harm to people, so we can weigh up whether we have taken enough precautions or should do more to prevent harm
An acronym for Stop, Look, Listen, Reflect, React, Reflect, Practice. This is designed to help us if we need to intervene